Cymraeg Ail Iaith Uwch Gyfrannol Astudio Ffilm Awdur Manon Steffan Ros

Clipau Fideo

Oriel Luniau

Hanes a Chefndir y Ffilm

Uned 1

Mae'r ffilm Patagonia wedi ei lleoli yng Nghymru ac yn y Wladfa ym Mhatagonia. Mae'r cysylltiad rhwng Cymru a Phatagonia wedi bodoli ers dros ganrif, a dyma un o brif themâu'r ffilm.

Y WLADFA

Hwyliodd llong o'r enw Y Mimosa o Lerpwl i Batagonia ym 1865, gyda 153 o Gymry ar ei bwrdd. Cafodd cymdeithas Gymraeg ei sefydlu ym Mhatagonia, ac roedd capeli ac eisteddfodau yn rhan fawr o fywyd bob dydd. Mae'r gymdeithas Gymraeg yma'n cael ei galw'n Wladfa.

Er bod nifer siaradwyr Cymraeg yn gostwng, mae cymuned Gymraeg yn dal i fodoli ym Mhatagonia, ac mae cymdeithasau ac ysgolion Cymraeg yno.

Mae Ynysoedd y Malvinas (neu'r Falklands) yn agos at Yr Ariannin, ond maen nhw wedi bod dan reolaeth Prydain ers 1841.

Ynysoedd y Malvinas

Ym 1982, ceisiodd byddin Yr Ariannin ennill yr ynysoedd yn ôl, a dechreuodd rhyfel y Malvinas. Lladdwyd 907 o bobl- y rhan fwyaf ohonynt o'r Ariannin- cyn i'r ynysoedd ddychwelyd i fod dan reolaeth Prydain.

Roedd rhyfel y Malvinas yn un a rwygodd farn pobl dros y byd, gyda phobol yn trafod effeithiau'r hen ymerodraeth Brydeinig, pan oedd pobl o Brydain yn teithio dros y byd ac yn hawlio tir mewn gwledydd eraill.

BODDI CAPEL CELYN

Ym 1965, cafodd pentref bach Capel Celyn ei foddi er mwyn rhoi dŵr i ardal Lerpwl. Roedd hyn yn cynnwys ysgol, swyddfa'r post, capel, mynwent a nifer o dyddynnod a thai.

Mae boddi Cwm Celyn yn cael ei ystyried fel trobwynt yn hanes modern Cymru, a'r ymateb wedi arwain at ddechrau mudiadau cenedlaetholgar sy'n bodoli hyd heddiw.

Geirfa

  • adleoli - relocate
  • gwladfa - colony
  • bodoli - exist
  • imperialaeth - imperialism
  • boddi - drown
  • mynwent - cemetary
  • cyflenwi- supply
  • cronfa ddwr - reservoir
  • tyddynnod - homesteads
  • cenedlaetholgar - nationalist
  • gwladfa - settlement

Y Stori ym Mhatagonia

Uned 2

CRYNODEB BRAS

Mae'r ffilm yn dilyn taith ffotograffydd o'r enw Rhys, sy'n ymweld â Phatagonia gyda'i gariad, Gwen. Mae'n mynd i dynnu lluniau hen gapeli Patagonia.

Maen nhw'n cwrdd â Mateo, eu tywysydd, sydd yn un o Gymry Patagonia. Rydyn ni'n cael gwybod am y problemau ym mherthynas Gwen a Rhys, a bod Gwen ddim yn gallu cael plant.

Yn ystod y daith, mae'r gwahaniaethau yn amlwg rhwng Rhys a Gwen, ac mae hi'n agosáu at Mateo. Pan mae Gwen yn credu bod Rhys wedi mynd a'i gadael, mae'n cysgu gyda Mateo.

Ar ôl gwahanu, mae Rhys am orffen ei waith a mynd adref. Mae Gwen yn gwrthod cynnig Mateo i aros gydag ef, ac yn mynd i grwydro ar ei phen ei hun. Mae Rhys yn dod i chwilio amdani.

DATBLYGIAD Y STORI

Ar ddechrau'r ffilm, mae'r gwahaniaethau rhwng Gwen a Rhys yn amlwg: Mae Rhys yn mynd ar y trip er mwyn gweithio, tra bod gyrfa Gwen yn teimlo braidd yn ddiflas.

Sut mae hyn yn effeithio ar ddatblygiad y stori?

Mae Mateo a Rhys yn gymeriadau gwahanol iawn- Mae Rhys yn drefnus iawn, a Mateo yn fwy ymlaciedig.

Rhestrwch enghreifftiau o'r gwahaniaethau rhwng Mateo a Rhys.

Mae cymeriad Martin yn un cymhleth ac anodd, ac er mai dim ond am gyfnod byr y mae'n ymddangos yn y ffilm, mae'r delweddau ohono'n rhai cryf.

Beth yw pwrpas cymeriad Martin?

Sut mae'n dylanwadu ar ddiwedd y ffilm?

Mae'r ffilm yn gorffen heb i ni wybod beth yw diwedd stori Rhys a Gwen. Mae'r ddau ar fin cyfarfod eto ar ôl gwahanu.

Pam mae'r ffilm yn gorffen fel hyn? Beth, yn eich barn chi, fyddai'n digwydd nesaf?

Mae'r olygfa yn y llun hwn yn bwysig yn natblygiad y ffilm gan ei fod yn gam ymlaen ym mherthynas Matteo a Gwen. Mae'r ddau yn rhannu sigarét - symbol o ryddid Gwen - ac yn trafod stori Blodeuwedd.

Mae Rhys yn yr olygfa hefyd, ond gan ei fod yn gweithio, mae ar y cyrion.

Beth mae Mateo yn ei olygu pan mae'n dweud, "Efallai bod angen adenydd ar ferch fel 'na?"

Yng nghartref Mateo, mae Mateo'n gofyn i Gwen aros. Gellid dadlau fod hwn yn bwynt pwysig yn y ffilm, gan fod Mateo'n awgrymu ei fod yn awyddus i gael perthynas hirdymor gyda Gwen.

Pam mae Mateo yn aros tan iddo ddychwelyd i'w gartref cyn gofyn i Gwen aros?

Yn eich barn chi, pam nad yw Gwen yn aros?

Pam ei bod yn gadael heb ffarwelio yn fuan wedi'r sgwrs yma gyda Mateo?

Mae Rhys yn gofyn i Martin os ydi o eisiau brecwast. Mae'r olygfa hon yn dangos ochr newydd i gymeriad Rhys. Cyn y pwynt yma, mae wedi bod yn ofalus a phwyllog a gweithgar iawn- ond mae'n cymryd risg wrth gynnig brecwast i Martin, sydd eisoes wedi profi ei fod yn annibynadwy a pheryglus.

Pam mae Rhys am dreulio amser gyda rhywun sydd wedi bygwth ei frifo?

Beth sydd wedi achosi'r newid yma yn Rhys?

Pa eiriau sy'n disgrifio Gwen ar ddechrau'r ffilm?

  • Hapus
  • Trist
  • Rhwystredig
  • Hwyloig
  • Bodlon
  • Anfodlon

Geirfa

  • tywysydd - guide
  • cydnaws - compatible
  • ymlaciedig - relaxed
  • crwydro - wander
  • gyrfa - career
  • nwydus - passionate
  • hirdymor - long-term
  • ysgogi - motivate
  • annibynadwy - unreliable
  • penagored - open-ended
  • dylanwadu - affect
  • rhwystredig - frustrated

Y Stori yng Nghymru

Uned 3

Crynodeb Bras

Mae Cerys, hen wraig o Batagonia, a'i chymydog ifanc Alejandro, yn dod i Gymru gan fod Cerys eisiau ymweld â Nant Briallu, hen gartref ei theulu.

Mae Cerys ac Alejandro yn mynd i Gaerdydd. Mae Alejandro yn cael noson allan gyda ffrindiau newydd, a Cerys yn ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru.

Maen nhw'n ymweld â dau le o'r enw Nant Briallu, ond nid y rheiny oedd cartref teuluol Cerys.

<

Mae Cerys ac Alejandro yn cyrraedd glan llyn, ac yn cwrdd â chymeriad Sissy.

Cawn wybod fod Nant Briallu wedi ei foddi pan gafodd argae llyn Tryweryn ei adeiladu.

Mae Cerys yn marw wrth eistedd ar fainc ar lannau'r llyn. Mae ei chorff yn cael ei roi ar gwch, a'i amlosgi ar y llyn.

Mae Alejandro'n dechrau ar ei daith adref.

Yn nechrau'r stori, dydy Alejandro ddim yn gwybod ei fod yn mynd dramor.

Pam na ddywedodd Cerys wrth Alejandro am ei chynlluniau o flaen llaw?


Tra mae yng Nghaerdydd, mae Alejandro'n cael llawer i'w yfed ac yn cael noson allan yn y ddinas.

Sut mae'r noson allan yn effeithio ar gymeriad Alejandro?

Pan fydd Cerys yn ymweld ag Amgueddfa Werin Cymru, mae delwedd drawiadol iawn ohoni yn pasio dynes mewn gwisg draddodiadol Gymreig.

Ydych chi'n meddwl fod hyn yn symbol o berthynas Cerys gyda Chymru? Ydi hi'n caru'r ddelwedd hen ffasiwn yn hytrach na'r Gymru fodern?

Wrth chwilio am Nant Briallu, mae Cerys ac Alejandro yn cael siwrnai wyllt mewn car ac yn cael eu gadael ar fuarth fferm ynghanol nunlle.

Sut mae cael eu gadael ar fferm mewn gwlad ddieithr yn effeithio ar ddatbygiad cyfeillgarwch Cerys ac Alejandro?

Mae Alejandro a Cerys yn aros yng nghartref Kate a Dave tra maen nhw'n chwilio am Nant Briallu.

Sut mae perthynas Cerys a Kate yn newid y stori? Ydych chi'n meddwl fod y rhan yma'n elfen bwysig o'r stori?

Mae'r tipi ar lan y llyn yng Nghymru yn ein hatgoffa o Batagonia.

Sut mae hyn yn effeithio ar awyrgylch y golygfeydd sy'n dilyn?

Mae Alejandro a Sissy yn llenwi'r cwch gyda blodau cyn amlosgi corff Cerys.

Beth mae hyn yn ei ddangos am ddatblygiad cymeriad

Alejandro? Sut mae'n plethu gyda themâu eraill y ffilm?

Fel stori Rhys a Gwen, mae'r ffilm yn gorffen heb ddiwedd pendant i stori Alejandro.

Beth ydych chi'n meddwl fyddai'n digwydd nesaf i gymeriad Alejandro?

Pa eiriau sy'n gweddu i berthynas Cerys ac Alejandro?

  • Agos
  • Tensiwn
  • Cariadus
  • Gwrthdaro
  • Pryder
  • Cyfrifoldeb

Geirfa

  • amlosgi - cremate
  • buarth - farmyard
  • delwedd - image
  • gwrthdaro - conflict
  • pryder - worry
  • cyfrifoldeb - responsibility

Y Cymeriadau ym Mhatagonia

Uned 4

RHYS

Ffotograffydd yw Rhys, sy'n mynd i Batagonia i dynnu lluniau o hen gapeli. Mae ei gariad, Gwen, yn dod gydag ef, ac mae perthynas y ddau yn newid.

Mae tynnu ffotograffau'n bwysig iawn i Rhys. Ambell dro, fe fydd yn dewis rhoi ei ffocws ar waith yn hytrach na threulio amser gyda Gwen.

Ystyriwch ymateb Rhys pan mae'n colli ffilm o'i gamera. Sut mae hyn yn cymharu â'r ffordd mae'n ymateb i Gwen?

Ar ôl iddo adael Gwen gyda Matteo, mae Rhys yn cwrdd â Martin ac, ar ôl noson allan, mae Martin yn trio dwyn ei fag ac yn ei fygwth â chyllell.

Pam mae Rhys yn maddau i Martin am ymddwyn mor fygythiol tuag ato? Ydi hyn yn dangos datblygiad yng nghymeriad Rhys?

Mae'n teimlo fel petai perthynas Rhys a Gwen wedi dod i ben ar ôl i Gwen gysgu gyda Mateo. Bwriad Rhys yw dychwelyd i Gymru.

Pam mae Rhys yn newid ei feddwl ac yn aros ym Mhatagonia?

Dychmygwch sgwrs Rhys a Gwen pan maen nhw'n cwrdd â'i gilydd yn y caffi.

Pan mae Gwen yn aros yn y bar gyda Mateo a'i ffrindiau, mae Rhys yn gadael. Yna, mae Gwen yn dychwelyd ac yn awgrymu gêm chwarae rôl. Mae Rhys yn ei gwrthrod.

Pam mae Rhys yn gadael y bar?

Pam nad yw eisiau chwarae'r gêm chwarae rôl gyda Gwen?

Beth mae hyn yn ei ddangos am ei gymeriad?

Pa eiriau ydych chi'n meddwl sy'n disgrifio Rhys?

  • gweithgar
  • tawel
  • cariadus
  • annwyl
  • anghenus
  • swil
  • diflas

GWEN

Mae Gwen yn actores sy'n gweithio yn Amgueddfa Werin Cymru tra mae hi'n aros am swydd actio. Mae'n dewis mynd i Batagonia gyda Rhys, ei chariad.

Ar ddechrau'r ffilm, mae Gwen yn teimlo'n anfodlon.

Beth ydych chi'n meddwl am sefyllfa bywyd Gwen ar ddechrau'r ffilm? Sut mae'n teimlo am ei bywyd?

Ar ôl noson o yfed a dawnsio mewn bar ym Mhatagonia, mae Rhys yn awgrymu priodi.

Yn eich barn chi, pam nad yw Gwen eisiau priodi Rhys?

Yn y ffilm, mae Gwen yn dweud nad ydi hi'n gallu cael plant.

Pa effaith ydych chi'n meddwl y cafodd hyn ar gymeriad Gwen, a'i hymddygiad tra oedd hi ym Mhatagonia?

Ar ôl cysgu gyda Mateo, mae Gwen yn dweud ei bod hi'n meddwl fod Rhys wedi mynd a'i gadael.

Ydych chi'n credu fod Gwen yn dweud y gwir?

MATEO

Mae Mateo’n ddyn o Batagonia sydd yn helpu Rhys gyda’i daith yn y wlad.

Mae Gwen yn dweud wrth Mateo fod Rhys yn meddwl fod capeli Patagonia'n "arwrol". Yn ddiweddarach, mae Mateo'n cyfeirio at gapel yn "arwrol" o flaen Rhys.

Yn eich barn chi, pam mae Mateo yn gwneud hyn? Beth mae'n ei ddweud am ei gymeriad?

Pan mae Gwen yn disgrifio cymeriad Blodeuwedd i Mateo, mae o'n ymateb, "Efallai bod angen adenydd ar ferch fel 'na."

Beth mae Mateo yn ei olygu yma? Sut ydych chi'n meddwl mae Gwen yn teimlo o glywed hyn?

Ar ôl i Rhys adael Gwen, mae Mateo'n mynd â hi i'w gartref. Mae'n gofyn i Gwen a hoffai aros yno gydag o am ychydig.

Ydych chi'n synnu fod Mateo'n gofyn i Gwen aros?

Ydych chi'n meddwl fod ei berthynas â Gwen wedi newid Mateo?

MARTIN

Mae Martin yn gymeriad sy'n ymddangos mewn rhan o'r ffilm sy'n emosiynol ac yn llawn tensiwn.

Beth yw eich argraff gyntaf o Martin? Yn eich barn chi, pam ei fod o mor hapus i weld Cymro?

Mae Martin yn gyn-filwr o ryfel y Malvinas.

Sut ydych chi'n meddwl yr effeithiodd y rhyfel ar Martin?

Sut ddyn ydych chi'n dychmygu oedd Martin cyn y rhyfel?

Mae Rhys a Martin yn clywed dynion yn canu'r emyn Gymraeg, Rho Im Yr Hedd. Dyma'r geiriau:

"Rho im yr hedd na ŵyr y byd amdano,
hedd, nefol hedd, a ddaeth drwy ddwyfol loes;
pan fyddo'r don ar f'enaid gwan yn curo
mae'n dawel gyda'r Iesu wrth y groes."

Pam fod Martin yn crio wrth glywed hyn?

Geirfa

  • bygythiol - threatening
  • dychmygwch - imagine
  • anfodlonrwydd - dissatisfaction
  • llefain - cry
  • bodlon - satisfied

Y Cymeriadau yng Nghymru

Uned 5

Cerys

Ar ddechrau'r ffilm, mae Cerys yn llonydd iawn ac yn gwrando ar sgwrs pobl eraill.

Beth yw ein hargraff gyntaf o Cerys?

Pam mae Cerys yn dewis mynd ag Alejandro i Gymru?

Mae Cerys ac Alejandro'n cael aros gyda Kate a Dave wrth chwilio am Nant Briallu.

Sut mae Cerys yn ymateb i Kate? Yn eich barn chi, pam mae Cerys yn ymateb fel hyn?

Mae Cerys yn dioddef o glefyd siwgr. Mae wedi dweud wrth Alejandro y byddai'n mynd i goma heb ei moddion.

Ydych chi'n meddwl fod Cerys wedi penderfynu peidio â chymryd y moddion, ac mai dyna sut mae'n marw?

Alejandro

Ar ddechrau'r ffilm, mae Alejandro yn ddyn petrus sydd ofn pob dim.

Sut mae Alejandro yn newid yn y ffilm?

Pam ei fod o'n newid?

Mae Alejandro yn mynd am noson allan gyda ffrindiau newydd yng Nghaerdydd.

Sut mae Alejandro yn ymateb i hyn?

Sut mae'r technegau ffilmio yn ein helpu i ddeall teimladau Alejandro?

Wrth chwilio am Nant Briallu, mae Alejandro yn gofyn am help gan griw o bobl ifanc swnllyd.

Beth mae hyn yn ei ddangos am faint mae Alejandro wedi newid?

Sissy

Mae Alejandro yn gweld Sissy am y tro cyntaf mewn clwb nos yng Nghaerdydd, ble mae hi'n gorfod cael cymorth mewn ambiwlans.

Beth yw argraff gyntaf Alejandro o Sissy?

Mae Sissy yn helpu ei hewythr, Wil, gyda'r tipis.

Beth ydym ni'n gwybod am berthynas Sissy ac Yncl Wil?

Sut gefndir ydych chi'n meddwl sydd gan Sissy?

Meddyliwch am yr olygfa gariadus rhwng Sissy ac Alejandro.

Sut mae eu perthynas yn newid yma?

Ydych chi'n meddwl fod teimladau Sissy tuag at Alejandro yn newid?

Y PERTHNASAU RHWNG Y CYMERIADAU

Sut mae perthynas Cerys ac Alejandro yn newid yn ystod y ffilm?

Mewn caffi yng Nghymru, mae Alejandro a Cerys yn sgwrsio am lyfr dirgelwch mae Alejandro yn ei ddarllen.

CERYS: Sut all fod yn ddirgelwch os wyt ti wedi ei ddarllen o'r blaen?

Beth mae hyn yn ei ddweud am y gwahaniaeth rhwng Cerys ac Alejandro?

Meddyliwch am sut mae Alejandro yn newid yn ystod y ffilm. Rhowch y digwyddiadau yma mewn trefn.

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • Ansicr a dihyder
  • Llawn pryder
  • Mewnblyg
  • Mwynhau
  • Ymlacio
  • Hyderus

Geirfa

  • argraff gyntaf - first impression
  • clefyd siwgr - diabetes
  • moddion - medicine
  • petrus - tentative
  • dihyder - unconfident
  • mewnblyg - introverted
  • ymlacio - relax
  • hyderus - confident

Technegau Ffilmio

Uned 6

Mae'r ffilm yn dechrau gyda sŵn tonnau a'r emyn Calon Lân.

Pa effaith mae hyn yn ei gael?

Ydych chi'n meddwl ei fod yn effeithiol?

Mae dechrau'r ffilm yn dangos natur.

Pam mae'r ffilm yn dechrau fel hyn?

Ydy'r clipiau ar ddechrau'r ffilm yn dangos Cymru neu Batagonia?

Dyma ddelwedd bwerus o Gwen yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig wrth siarad ar y ffôn.

Beth ydych chi'n meddwl o'r gwrthgyferbyniad rhwng yr hen ffasiwn a'r modern yma?

Gwyliwch y fideo. Mae'n dangos breuddwyd Gwen.

Sut mae'n gwneud i ni deimlo?

Ydych chi'n hoffi'r rhan yma? Pam?

Beth mae'n ei ddweud am gymeriad Gwen?

Gwyliwch y fideo. Mae'n dangos noson Alejandro yng Nghaerdydd.

Mae gwrthgyferbyniad rhwng y delweddau a'r gerddoriaeth. Pa effaith mae hyn yn ei gael?

Gwyliwch y fideo. Mae'n dangos Cerys yn y fynwent.

Pa fath o dechnegau ffilmio a ddefnyddir yma?

  • Mae'r ddelwedd yn feddal
  • Mae'r ddelwedd yn siarp
  • Mae'r camera'n symud yn gyflym
  • Mae'r camera'n symud yn araf
  • Mae'n ddelwedd brysur, lliwgar
  • Does dim llawer o liwiau yn y ddelwedd.

Sut mae'r clip yn dangos stad feddyliol Cerys?

Sut mae sŵn lleisiau'r plant yn effeithio ar yr olygfa?

Geirfa

  • mynwent- cemetary
  • gwrthgyferbyniad- contrast
  • awyrgylch- atmosphere

Themâu

Uned 7

Y GYMRAEG

Mae'r ffilm yn ddwyieithog- Cymraeg a Sbaeneg.

Mae'r Gymraeg yn gysylltiad rhwng rhai cymeriadau, er eu bod yn dod o wledydd gwahanol.

Sut mae'r Gymraeg yn effeithio ar berthynas Martin a Rhys?

Mewn caffi yng Nghymru, mae Cerys yn esbonio pam nad yw'n medru siarad Cymraeg.

Sut mae Cerys yn teimlo am hyn?

Beth yw perthynas Cerys gyda'r iaith Gymraeg?

Mae bron pawb mae Alejandro a Cerys yn cwrdd â nhw yng Nghymru yn siarad Cymraeg.

Ydi'r portread yma o'r Gymraeg yn un realistig?

Yn y rhan yma, mae Yncl Wil yn trafod Capel Celyn. Dydy Sissy ddim yn cyfieithu beth mae Wil yn ei ddweud yn gywir.

Pam mae Sissy yn gwneud hyn?

Beth fyddai barn Alejandro petai'n gwybod?

CARIAD

Mae perthynas Rhys a Gwen yn newid yn ystod y ffilm.

Pam? Ydych chi'n meddwl fod Rhys a Gwen yn siwtio'i gilydd?

Oes arwyddion fod Gwen a Mateo yn ffansïo'i gilydd cyn iddyn nhw gysgu gyda'i gilydd?

Ydych chi'n meddwl bod y ddau yn syrthio mewn cariad?

Mae Alejandro yn gweld Sissy mewn clwb nos yng Nghaerdydd, ond dydyn nhw ddim yn dod i adnabod ei gilydd tan wedyn.

Sut mae'r ffaith fod Alejandro wedi gweld Sissy yng Nghaerdydd yn newid ei deimladau tuag ati hi?

Ydych chi'n meddwl y bydd perthynas Alejandro a Sissy yn parhau ar ôl i Alejandro adael?

Mae Gwen yn cysgu gyda Mateo, ac yn dweud ei bod hi'n credu fod Rhys wedi ei gadael.

Ydych chi'n credu Gwen? Oedd hi wir yn credu fod Rhys wedi mynd?

Ydi Gwen yn bod yn anffyddlon yma?

HANES

Mae Gwen yn gweithio yn Amgueddfa Werin Cymru cyn mynd i Batagonia, ac yn gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig.

Sut mae Gwen yn newid ar ôl gadael y swydd? Ydych chi'n meddwl ei bod hi'n hapus yn gweithio yno?

Y rheswm dros fynd i Batagonia yw i Rhys gael tynnu lluniau hen gapeli. Mae'r rhan fwyaf o'r capeli yn wag bellach.

Pam mae Rhys yn meddwl fod hanes hen gapeli Patagonia yn bwysig? Beth mae hyn yn ei ddweud am gymeriad Rhys?

Mae Cerys yn mynd i Gymru i chwilio am ei hen gartref teuluol, er nad ydi hi wedi bod i Gymru o'r blaen.

Pam mae Cerys yn mynd i Gymru?

Ydych chi'n meddwl fod Cymru fel roedd hi'n ei disgwyl?

Pa themâu y gallwch ei gysyllu gyda'r ddelwedd yma?

  • Cariad
  • Perthyn
  • Hunaniaeth
  • Serch
  • Hiraeth
  • Rhyfel
  • Iaith
  • Hanes

Mae cysylltiadau hanesyddol rhwng Cymru a Phatagonia.

Pa mor bwysig yw'r rhain i'r ffilm?

Geirfa

  • dwyieithog- bilingual
  • cysylltiadau- connections

Symbolau

Uned 8

Natur

Mae cefn gwlad Cymru a Phatagonia'n wahanol iawn i'w gilydd.

Sut mae tirwedd y ddwy wlad yn wahanol?

Beth yw effaith hyn ar y ffilm?

Meddyliwch am y rhannau o'r ffilm sy'n digwydd yng nghanol y wlad. Fel:

  • pan mae car Mateo'n torri lawr ar y paith;
  • pan mae Alejandro a Cerys yn cael eu gadael ar fferm ddieithr;
  • pan mae Mateo a Gwen yn gwylio'r sêr;
  • ar lan llyn Tryweryn.

Sut mae natur yn adlewyrchu teimladau'r cymeriadau yn y golygfeydd yma?

IAITH

Mae Cerys yn mynd i Gymru, lle y mae'n teimlo cysylltiad agos at y wlad. Ond dydy Cerys ddim yn siarad Cymraeg na Saesneg, dwy iaith Cymru.

Pa effaith mae hyn yn ei chael ar daith Cerys?

Ydi hi'n teimlo'n gartrefol yng Nghymru?

Mae Rhys yn colli'r ffilm o'i gamera. Mae'n ceisio holi pobl amdano, ond mae'n cael trafferth gan nad yw'n siarad yr iaith. Mae wedi dibynnu ar Mateo i siarad drosto.

Ydi hyn yn symbol o deimladau Rhys?

Ydi o wedi colli rheolaeth ar rannau eraill o'i fywyd?

Mae'n anodd i Alejandro gyfathrebu yng Nghymru gan nad yw'n deall Cymraeg na Saesneg. Ond mae'n gallu siarad gyda Sissy, gan ei bod hi'n siarad Sbaeneg.

Sut mae hyn yn effeithio ar eu perthynas?

BLODEUWEDD

Mae Blodeuwedd yn stori chwedlonol o Gymru. Dyma rai o'r pethau sy'n digwydd yn y stori.

  • Mae Blodeuwedd yn ferch sy'n cael ei chreu o flodau er mwyn bod yn wraig i Lleu.
  • Mae'n syrthio mewn cariad â dyn arall, Gronw. Mae Blodeuwedd a Gronw yn cynllwynio i ladd Lleu. Yn lle marw, mae Lleu'n troi'n eryr.
  • Mae Gwydion, y dewin, yn cosbi Blodeuwedd gan ei bod hi wedi bod yn anffyddlon drwy ei throi yn dylluan.

Mae'r olygfa yma'n un emosiynol iawn. Ydych chi'n meddwl fod yr emyn yn symbol o rai o'r rhain?

  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • Cymru
  • Crefydd
  • Cariad
  • Colled
  • Patagonia
  • Natur
  • Hiraeth

Beth yw'r tebygrwydd rhwng stori Blodeuwedd a stori ffilm Patagonia?

Mae llawer o flodau yn y ffilm. Pam ydych chi'n meddwl fod Blodeuwedd yn symbol mor bwysig yma?

Geirfa

  • dibynnu- rely
  • cyfathrebu- communicate
  • chwedlonol- folklore
  • cynllwynio- plot
  • anffyddlondeb- unfaithfulness
  • tylluan- owl

Paratoi ar gyfer Arholiad

Uned 9

Dyma esiamplau o ffyrdd o fynegi eich barn am y ffilm. Ceisiwch ymateb i bob un trwy gytuno neu anghytuno a dweud pam, neu drwy ofyn cwestiwn.

Mae'r bobol yma'n siarad am gymeriad Gwen.

"Rydw i'n meddwl fod Gwen yn drist am nad yw'n medru cael plant. Dyna pam nad yw hi am briodi Rhys."

"Rydw i'n anghytuno. Dwi ddim yn meddwl fod Gwen yn caru Rhys."

"Yn fy marn i, mae Gwen yn greulon gyda Rhys. Mae hi wedi diflasu gyda'i bywyd am nad ydi'n hoffi ei swydd. Mae'n defnyddio Mateo i wneud iddi hi ei hun deimlo'n well."

"Rydw i'n teimlo trueni dros Gwen. Mae'n anhapus yn ei bywyd, ac mae Patagonia fel paradwys iddi. Yn fy marn i, mae Mateo yn fwy o hwyl na Rhys."

"Rydw i'n meddwl fod Gwen angen amser ar ei phen ei hun, achos dydy hi ddim eisiau aros gyda Mateo, ond dydy hi ddim yn edrych yn hapus iawn i weld Rhys ar ddiwedd y ffilm, chwaith."

"Yn fy marn i mae Patagonia'n ffilm wych."

"Dw i'n meddwl bod Patagonia'n edrych fel lle hardd a hen ffasiwn."

"Fy hoff olygfa ydy'r un pan mae Alejandro'n mynd allan yng Nghaerdydd."

"Wyt ti'n cytuno bod Martin yn ddyn peryglus?"

"Dw i'n anghytuno bod Rhys yn gymeriad oeraidd."

"Dw i'n teimlo bod y golygfeydd yng Nghymru yn fwy effeithiol na'r golygfeydd ym Mhatagonia."

"Beth ydy dy farn di am Sissy?"

"Beth wyt ti'n ei feddwl am berthynas Alejandro a Sissy?"

"Mae Rhys yn dweud bod capeli Patagonia yn arwrol, ac mae'n canolbwyntio arnyn nhw yn lle treulio amser gyda Gwen."

"Dw i'n meddwl fy mod i wedi dysgu am y berthynas rhwng Cymru a Phatagonia."

"Cyn i fi weld y ffilm doeddwn i ddim yn gwybod am ryfel y Malvinas."

"Dw i'n meddwl bod yr actor sy'n chwarae rhan Alejandro yn wych. Mae Alejandro yn gymeriad difyr achos ei fod o'n datblygu gymaint yn ystod y ffilm."

"Cryfder y ffilm yn fy marn i ydi'r lleoliadau achos mae'r ffaith fod tirwedd y gwledydd mor wahanol yn drawiadol."

"Roeddwn i'n meddwl bod perthynas Cerys ac Alejandro yn ddiddorol achos bod Alejandro mor ofalus o Cerys erbyn diwedd y ffilm."

"Dw i'n meddwl bod gweld y ddwy wlad yn yr un ffilm yn effeithiol achos eu bod nhw mor wahanol, ond bod y Gymraeg yn y ddau le."

"Fy hoff olygfa yn y ffilm ydy'r un pan mae Kate yn rhoi'r plant yn eu gwlâu achos mae'n emosiynol iawn, ac mae Cerys fel merch fach."

"Yn fy marn i, Alejandro ydy cymeriad pwysicaf y ffilm achos ei fod o'n newid yn gyfan gwbl."

Beth am i chi gwblhau'r brawddegau hyn?

Yn fy marn i...


Dw i'n meddwl bod Patagonia'n...


Fy hoff olygfa ydy...


Wyt ti'n cytuno bod..?


Dw i'n anghytuno bod...


Dw i'n teimlo bod...


Beth ydy dy farn di am ..?


Beth wyt ti'n ei feddwl am ..?

Mae... yn dweud... achos...


Dw i'n meddwl fy mod i wedi dysgu am...


Cyn i fi weld y ffilm doeddwn i ddim yn gwybod am...


Roeddwn i'n meddwl bod ... yn ddiddorol achos...


Dw i'n meddwl bod gweld ... yn effeithiol achos...


Fy hoff olygfa yn y ffilm ydy... achos...


Yn fy marn i, ... ydy cymeriad pwysicaf y ffilm achos ...

Diwedd yr uned